Florianus | |
---|---|
Ganwyd | 19 Awst 232 Terni |
Bu farw | 9 Medi 276 Tarsus |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | person milwrol |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, Praetorian prefect |
Marcus Annius Florianus (bu farw Medi 276) oedd ymerawdwr Rhufain am gyfnod byr yn y flwyddyn 276.
Ganed Florianus yn Tarsus, Asia Leiaf, ond ychydig a wyddir am ei fywyd cynnar. Pan ddaeth ei frawd Tacitus yn ymerawdwr, penodwyd Florianus yn bennaeth Gard y Praetoriwm. Gan fod Tacitus yn 75 oed pan ddaeth yn ymerawdwr, mae'r debyg fod Florianus hefyd yn weddol oedrannus. Yn y swydd yma, enillodd fuddugoliaeth bwysig dros y Gothiaid.
Pan ddaeth y newyddion fod ei frawd wedi marw, dilynodd Florianus ef fel ymerawdwr, ac enilloff fuddiugoliaeth arall dros y Gothiaid. Yn fuan wedyn clywodd fod Marcus Aurelius Probus wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr gan y llengoedd yn y dwyrain.
Cychwynnodd Florianus a'i fyddin tua'r dwyrain i wynebu Probus, ond llwyddodd Probus i osgoi brwydr am gyfnod. Cyn hir yr oedd milwyr Florianus, oedd wedi cyrraedd y dwyrain yn syth o Ewrop, yn ddioddef yn y gwres a bu nifer o glefydau yn effeithio'r fyddin. Gostyngodd morâl y milwyr, ac ym mis Mehein 276 aeth llawer ohonynt trosodd i ochr Probus. Ychydig yn ddiweddarach llofruddiwyd Florianus wedi teyrnasiad o 88 diwrnod.
Rhagflaenydd: Tacitus |
Ymerawdwr Rhufain 276 |
Olynydd: Probus |